Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Siambr Hywel - Tŷ Hywel

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 19 Tachwedd 2025

Amser y cyfarfod: 13.30
 


313 (v3) 

------

<AI1>

Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr Hywel, Tŷ Hywel ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

</AI1>

<AI2>

1       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.    
Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

2       Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.    
Gweld y Cwestiynau

</AI3>

<AI4>

3       Cwestiynau Amserol

(20 munud)

I ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar oblygiadau penderfyniad Llywodraeth y DU i ddileu Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ar blismona yng Nghymru?

I ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar ddatblygiad gorsaf bŵer niwclear adweithydd modiwlar bach gyntaf y DU yn Wylfa?

</AI4>

<AI5>

4       Datganiadau 90 eiliad

(5 munud)

</AI5>

<AI6>

5       Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2026-27

(30 munud)

NDM9052 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:

Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2026-27, fel y’i nodir yn Nhabl 1 o Gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2026-27, a osodwyd gerbron y Senedd ar 12 Tachwedd 2025, a’i bod yn cael ei hymgorffori yng Nghynnig y Gyllideb Flynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).

</AI6>

<AI7>

6       Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro

(5 munud)

NDM9051 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal Rheol Sefydlog 13.6 dros dro i ganiatáu i Aelodau gyfrannu fwy nag unwaith yn ystod y Ddadl Agored ar NDM9046 yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 19 Tachwedd 2025.

</AI7>

<AI8>

7       Dadl Agored

(120 munud)

NDM9046 Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)

A fyddai treth gyfoeth yn gweithio i Gymru?

Cyd-gyflwynwyr   

John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cefnogwyr
Mick Antoniw (Pontypridd)

</AI8>

<AI9>

8       Dadl Plaid Cymru - Cyllideb y DU a datganoli

(60 munud)

NDM9054 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cyllideb hydref Llywodraeth Lafur y DU sydd ar ddod, ac a gaiff ei chyhoeddi ar 26 Tachwedd.

2. Yn gresynu bod digwyddiadau cyllidol blaenorol gan Lywodraeth Lafur bresennol y DU wedi methu â chyflawni addewidion hirdymor a wnaed i bobl Cymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefyll i fyny dros fuddiannau pobl Cymru drwy wneud sylwadau i Lywodraeth Lafur y DU, a chyhoeddi'r ohebiaeth berthnasol, i:

a) datblygu cynllun clir, gydag amserlenni penodol, i ddatblygu fformiwla ariannu newydd ar gyfer Cymru yn seiliedig ar angen, ac wedi'i gosod ar sail statudol;

b) gwrthdroi newidiadau i'r dreth etifeddiant ar ffermydd teuluol, ac ad-dalu'n llawn i sector cyhoeddus Cymru am newidiadau i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr;

c) galluogi'r Senedd i osod ei bandiau treth incwm ei hun;

d) uwchraddio pwerau benthyca a therfynau tynnu i lawr y Senedd ar gyfer Cronfa Wrth Gefn Cymru yn unol â chwyddiant fel cam cyntaf tuag at foderneiddio ei phensaernïaeth gyllidol;

e) darparu cyllid canlyniadol llawn sy'n ddyledus i Gymru o'r prosiect HS2;

f) datganoli Ystad y Goron er mwyn galluogi Cymru i elwa'n deg o'i hadnoddau naturiol ei hun;

g) dileu'r cap budd-dal dau blentyn;

h) datganoli pwerau cyfiawnder a phlismona yn llawn i Gymru; ac

i) cyflwyno treth cyfoeth o 2 y cant ar asedau dros £10 miliwn a gwneud treth enillion cyfalaf yn gyfartal â threth incwm i symud ailddosbarthu ymlaen a darparu cymorth costau byw mwy cadarn i aelwydydd Cymru.   
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
   
Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
 
Dileu popeth ar ôl pwynt 1. 

Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. 

Gwelliant 2 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) 
Ym mhwynt 3, dileu is-bwyntiau a) i i) a rhoi yn eu lle:

a) adolygu'r fframwaith cyllidol ar gyfer Cymru, gan gynnwys pwerau benthyca a therfynau tynnu i lawr;
b) gwrthdroi'r newidiadau treth etifeddiant ar gyfer ffermydd teuluol a chwmnïau teuluol;

c) gwrthdroi'r cynnydd mewn yswiriant gwladol cyflogwyr ac ad-dalu Cymru am fethu ag ariannu costau llawn y rhain hyd yma;

d) diystyru unrhyw godiadau treth newydd;

e) diogelu'r clo triphlyg ar bensiynau'r wladwriaeth;

f) darparu cyllid canlyniadol i Gymru o ganlyniad i wariant ar HS2 a buddsoddiadau rheilffyrdd Rhydychen a Chaergrawnt;

g) adfer cyllid ar gyfer trydaneiddio prif linell Gogledd Cymru;

h) cynyddu buddsoddiad i ddiogelu ffiniau'r DU ym mhorthladdoedd Cymru i atal mewnfudo anghyfreithlon; ac

i) darparu adnoddau ychwanegol i ddarparu ffordd liniaru'r M4 ac uwchraddio cefnffordd yr A55, o ystyried eu pwysigrwydd fel llwybrau strategol ar gyfer cysylltedd y DU.

</AI9>

<AI10>

9       Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Pedwerydd adroddiad ar hugain i’r Chweched Senedd o dan Reol Sefydlog 22.9

(15 munud)

NDM9053 Hannah Blythyn (Delyn)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad — Y pedwerydd adroddiad ar hugain i'r Chweched Senedd a osodwyd gerbron y Senedd ar 12 Tachwedd 2025 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9.

2. Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad fod rheol wedi ei thorri.

3. Yn penderfynu y caiff yr Aelod ei wahardd o drafodion y Senedd o dan Reol Sefydlog 22.10(iii) am gyfnod o 14 diwrnod, ac eithrio dyddiau yn ystod toriad y Senedd, gan ddechrau’n syth wedi i’r cynnig hwn gael ei dderbyn a chan ddod i ben dim hwyrach na hanner nos ar 3 Rhagfyr 2025.

4. Yn nodi na fydd yr Aelod yn cael hawlio unrhyw gyflog gan y Senedd ar gyfer y dyddiau y mae pwynt 3 uchod yn gymwys ar eu cyfer, yn unol â Rheol Sefydlog 22.10A

</AI10>

<AI11>

10    Cyfnod pleidleisio

 

</AI11>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30,

Dydd Mawrth, 25 Tachwedd 2025

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>